mewn tri mis; yna dechreuai eilwaith. Gwr gostyngedig iawn oedd, hunan-ymwadol, hardd yn ei fuchedd, a hynod ymdrechgar yn achos gwir grefydd. Ond er mor heddychol a distaw yr oedd yn myned ymlaen a'i waith, cafodd yn aml ei aflonyddu a'i rwystro yn fawr gan erlidwyr a gelynion yr efengyl. Bu yn offeryn er troedigaeth llaweroedd, ac er eu hadeiladaeth yn y ffydd. Gwel "Trysorfa Ysprydol," tud. 216-218.
20 Y Parchedig Griffith JONES.
Fel y gwelir yn y Daflen a ganlyn, bu yn amser tywyll a difraw iawn ar grefydd dros amryw flynyddau cyn i'r gwr hynod hwn ymddangos. Yr oedd gwir grefydd megis wedi cymeryd adenydd a ffoi o'r wlad. Felly yr oedd yn Lloegr yn gystal ag yn Nghymru. Darfu uchelion yr Eglwys, yn ol cynllun y Pabyddion, arferyd braich ddynol, i'r dyben, fel y tybient, o amddiffyn a lled-daenu crefydd; ond yn wirioneddol, i erlid ymaith grefydd o'r deyrnas, ac i ddiogelu balchder, seguryd ac annuwioldeb. Ganwyd G. Jones yn mhlwyf Cilrhedyn, sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn, 1683. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Ysgol Caerfyrddin. Yr oedd yn 25 oed pan y cymerodd urddau, sef, yn y flwyddyn 1708. Efe oedd y cyntaf o'r diwygwyr diweddar, nid yn unig yn Nghymru, ond yn Lloegr hefyd. Rhoddwyd iddo fywioliaeth