gan yr un teimlad o fod yn analluog i wneuthur iawnder i wr mor rhagorol. Er fod y teimlad hwn o hyd yn parhau yn ei rym, eto gwnaeth anturio cymeryd y gorchwyl mewn llaw. Cafodd ei ddarbwyllo a'i gymhell gan yr ystyriaethau hyn:—Gwell rhoi y cyfrif goreu a ellir am dano, na gadael ei enw yn ddigoffhad. Peth arall hefyd a gafodd effaith ar ei feddwl:—Rhoddwyd crybwylliadau byrion eisoes am Rowlands mewn rhai o'r Cyhoeddiadau misol; ac yr oedd gan yr ysgrifenydd ddefnyddiau lawer helaethach na dim a ymddangosodd yn barod. Gwedi ei eni a'i fagu ar gyffiniau cymdogaeth Llangeitho,—gwedi ymddiddan llawer ag amryw o hen wrandawyr Rowlands, ac â rhai o'i gydnabod a'i gyfeillion,—gwedi casglu yr hyn oll a allai oddiwrth ei fab, ac oddiwrth y diweddar Barchedig David Griffiths, o Nevern, ac offeiriaid eraill a adwaenent Rowlands,—gobeithia yr awdwr, na chyfrifir iddo yn fai neu yn rhyfyg i anturio ar y fath waith. Nid enw dyn, ond lles dynolryw, a ddylai gael ei olygu. Y grediniaeth, y bydd hanes un a gynysgaeddwyd gymaint gan Dduw er budd i filoedd, yn debyg o fod eto yn foddion o fudd parhaus i lawer, sydd yn ddigon i beri y fath ymdrech a hwn: ac os etyb y fath ddiben, y mae hyn yn ddigonol dâl am y poen a'r llafur a gymerwyd. Cafodd Rowlands ei eni a'i fagu yng nghymydog aeth y lle y bu yn benaf yn gweinidogaethu gyda y fath lwyddiant anarferol. Nid peth cyffredin ydyw hyn. Anaml y mae y lle y genir ac y megir enwogion yn cael derbyn lles eu hymdrechiadau. Ganwyd ef
Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/45
Gwedd