i ymddiddan ag ef er ei ddwyn, fel y tybient, i'r iawn, ynghylch y pethau a ystyrient yn gyfeiliornus ynddo. Ond ateb yr hen wr call a duwiol iddynt ydoedd hyn:—" Gadewch ef yn llonydd. Offeryn yw ag y mae yr Arglwydd yn ei gyfodi er gwneuthur rhyw waith mawr yn y byd. Efe a ddiwygia mewn amser. Gwna Duw ei ddwyn i'r iawn bob yn ronyn. Ac felly y bu; a phrophwyd cywir a fu yr hen wr duwiol. Unionodd Duw y gwyrni oedd yn ei gred, a gwnaeth ef o ddefnydd rhyfedd helaeth yn ei ddydd. Un o'r pethau camsyniol a draddodai, oedd ynghylch perffeithrwyd cristionogol, tyb a gafodd, y mae yn debygol, yn ngwaith y Parchedig William Law: ac yr oedd rhyw ychydig o ddeddfolrwydd yn ei olygiadau yn anghydunol ag ansawdd gwir yr Efengyl. Ond daeth yn fuan i oleuni disglaerach am wirioneddau dwyfol, a pharhaodd yn y goleuni hwnw, heb un cwmwl i dywyllu ei feddwl, dros holl ystod ei hir fywyd.
Yr hyn a bregethai ar y cyntaf oedd y gyfraith yn ei gofyniadau manwl, ei hysprydolrwydd, a'i bygythion arswydedig. Yr oedd yn sefyll megis ar fynydd Sinai, ac yn uchel gyhoeddi dystryw tragwyddol uwchben byd pechadurus. Dychrynedig a brawychus iawn oedd ei holl bregethu, dim ond mellt gyfraith. difaol a tharanau ofnadwy y gyfraith, heb ronyn o hyfryd lais yr efengyl. Colledigaeth ddiderfyn, wedi ei haeddu gan bechaduriaid, ydoedd yn osod allan gyda nerth ac egni anarferol. Ei yspryd eihun oedd wedi ei lenwi megis a braw ac arswyd digyffelyb. Yr oedd fel pe buasai am gyneu uffern o gylch troseddwyr cyfraith Dduw er eu brawychu, ac yn dadblygu