digofaint y nefoedd yn erbyn pechod gyda'r eglurder, difrifoldeb, a'r dwysder mwyaf. Ond nid oedd dim crasder na sarugrwydd yn ei lais: eithr y tynerwch mwyaf toddedig. Llefarai fel un wedi ei orlenwi â chydymdeimlad, a than yr argyhoeddiad dyfnaf o'i annheilyngdod eihun. Dywedwyd gan rai, ei fod y pryd hyn yn pregethu ei brofiad eihun: ac mai dychrynfeydd y gyfraith oeddent yn ei berchenogi fwyaf. Nid annhebyg iddo fyned eihun dan argyhoeddiadau dychrynllyd a thra dyfnion, ac mai yr hyn a ddysgasai ef eihun a gyfranai i eraill. Nid oes un peth a fedrwn ddangos mor gywir ac mor efscithiol i eraill a'r hyn a welsom ac a deimlasom ni einhunain. Nid dysg ddynol gymaint, ond dysg ysprydol, a gaffer trwy brofiad, a'n gwir addasa i waith mawr y weinidogaeth. Ni ddywed neb yn gywir ac yn deimladol aın gyflwr peryglus a thruenus dyn trwy bechod, ond yr hwn a gafodd olwg eglur a dychrynadwy ohono eihun, yngwyneb cyfraith gyfiawn y nefoedd.
Effeithiau rhyfedd a ganlynasant y pregethiad hwn. Er mor ddychrynllyd a brawychus oedd y genadwri, eto ymgynullai cannoedd a miloedd i'w wrando: a'r fath arswyd a dychryn a ymafaelai mewn llawer ohonynt, fel y syrthient i lawr yn aml fel meirwon. Dyhidlai dagrau dros wynebau cannoedd ar unwaith. Y rhai mwyaf anystyriol a riddfanent gan ofid mynwesol, fel pe safent ar ddibyn anobaith: a'rmwyaf cyndyn, masweddgar, ac annuwiol, a wylent yn aml dan yr argyhoeddiadau dyfnaf. Dyma yr olwg oedd ar y cynulleidfaon lluosog a'i gwrandawai, a hyny dros