fawr, ymddengys iddo ddechreu ei waith teithiol yn fuan wedi ei droedigaeth. Ond yr oedd ar y cyntaf yn gweinidogaethu yn unig yn yr Eglwysi, ac yn Nghapelydd Eglwysig.
Yr amgylchiad a'i harweiniodd gyntaf i fyned allan o gyffiniau ei gymdogaeth i bregethu, fel y dywedodd ei Fab wrthyf, oedd yr un canlynol:—Yr oedd gwraig yn Ystrad Ffin, yn sîr Gaerfyrddin, a chanddi chwaer yn byw yn nghymydogaeth Llangeitho. Daethai hon ar brydiau i ymweled â'i chwaer: ac ar un o'r troion hyn clywodd bethau go hynod am offeiriad y plwyf, sef Rowlands. Y gair cyffredin oedd, ei fod allan o'i gof, wedi colli ar ei synhwyrau. Pa fodd bynag, hi a aeth i'w wrando, ac nid yn ofer: ond ni ddywedodd ddim wrth ei chwaer, na neb arall, yn neillduol am y bregeth: a dychwelodd adref at ei theulu. Y sul canlynol, dyma y wraig drachefn yn dyfod i dŷ ei chwaer yn nghymydogaeth Llangeitho. "Beth," meddai ei chwaer, mewn syndod, "beth yw'r mater? A ydyw y gwr a'r plant yn fyw ac yn iach?" Yr oedd yn ofni bod rhyw beth erchyll wedi digwydd. "O ydynt," atebai hithau; " y mae pob peth o'r fath hyn o'r goreu." Gofynai iddi eilwaith, "Beth yw'r mater ynte?" "Nis gwn i yn iawn," meddai y wraig, "beth yw'r mater. Rhywbeth a ddywedodd eich offeiriad crac chwi (dyma yr enw a roddid arno) a barodd i mi ddyfod; safodd ar fy meddwl trwy yr wythnos, ac ni chefais lonydd ganddo ddydd na nos." Aeth i'w wrando drachefn; a deuai yno wedi hyn, bob sul, er bod ei ffordd yn fynyddig, a thros ugain milldir o Langeitho. Wedi