parhau iddyfodfel hyn tua hanner blwyddyn, teimlodd chwant i geisio gan Rowlands ddyfod i bregethu i Ystrad Ffin. Anturiodd fyned ato un sul ar ol y gwasanaeth, ac anerchodd ef yn y modd hyn:—"Os gwir, Syr, yr ydych yn ddywedyd wrthym, y mae llawer yn fy nghymydogaeth i mewn cyflwr peryglus iawn, yn myned yn gyflym i'r trueni tragwyddol. Er mwyn eneidiau gwerthfawr, deuwch trosodd i bregethu iddynt." Synodd yn fawr wrth gais y wraig; ond heb betruso dim, dywedodd yn ei fodd cyflym, "Dof, os cewch genad offeiriad y plwyf." Gwedi llwyddo yn ei chais, aeth adref gyda y llawenydd mwyaf, fel pe buasai wedi cael rhyw drysor gwerthfawr. Nid esgeulusodd y cyfle cyntaf i ofyn cenad yr offeiriad; a chafodd ef yn dra rhwydd. Aeth y sul nesaf yn hynod lawen i Langeitho, a dygodd i Rowlands y newydd o fod iddo ganiadhâd i bregethu yn Ystad Ffin. Mewn canlyniad i hyn aeth drosodd, a phregethodd mewn modd rhyfeddol, a than arddeliad hynod iawn. Dywedir i ddim llai na degarhugain gael eu hargyhoeddi y pryd hwn: a deuai amryw ohonynt wedi hyn ar y suliau i'w wrando yn Llangeitho; ac aethai yntau ar amserau yno i bregethu iddynt. Y mae adroddiad arall go hynod mewn cyssylltiad ag Ystrad Ffin. Yr hyn a ganlyn a adroddwyd i mi gan y diweddar Barchedig Hugh Lloyd, o Gil—pill, yn agos i Langeitho. Derbyniodd ef yr hanes gan un a aethai gyda Rowlands i Ystrad Ffin ar y tro crybwylledig. Tebygol yw mai nid y tro cyntaf yr aethai yno y dygwyddodd yr hyn a ganlyn:—
Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/57
Gwedd