Yr oedd yn y plwyf wr boneddig a arferai dreulio boreu y suliau yn aml yn y difyrwch o hela. Gwnaethai hyn ar un o'r suliau ag yr oedd Rowlands i bregethu yno. Aethai allan gyda ei gŵn hela; a'i weision a rhai o'i ddeiliaid yn uno ag ef yn yr un gorchwyl annuwiol (annuwiol ar y fath ddydd). Clywodd fod offeiriad dieithr i bregethu yn yr Eglwys y dydd hwnw; ac oddiwrth yr hyn a glywsai amdano, tybiai ef yn ddyn gwallgofus. Offeiriad crac oedd yr enw a elwid arno. Wrth ddychwelyd o hela, aeth i'r Eglwys, a'i gŵn a'i gymdeithion annuwiol gydag ef; ac o ddyben i ddyrysu a chywilyddio y Pregethwr, safodd i fynu ar fainc yn union gyferbyn ar areithfan, gan edrych yn hyf, yn ddiystyrllyd, ac yn watwarus yn ei wyneb. Canfyddodd Rowlands ei ddull, a deallai ei ddyben; ond yr effaith a gafodd hyn arno, er ei fod yn ieuanc y pryd hyn, oedd yn gwbl wrthwyneb i ddisgwyliad y gwr boneddig. Aeth Rowlands rhagddo heb gymeryd arno ei sylwi, a chyda yr hwylusrwydd mwyaf: ac ymhen ychydig aeth ei eiriau yn hynod rymus, mor dreiddgar, taranllyd ac argyhoeddiadol, nes y mawr synai ei wrandawyr, ac y dychrynent gan ofn ac arswyd. Buan y cyfnewidiodd gwedd y boneddig. Nis gallasai ddal i fynu yngwyneb y geiriau llym a nerthol, a'r melldithion ofnadwy a draddodid. Syrthiodd ei wynebpryd, crynodd ei aelodau, a'r dagrau a dreiglent i lawr ar hyd ei ruddiau: ac nid allai sefyll i fynu ar y fainc yn hwy. Daeth i lawr, gan sychu y dagrau oddiar ei wyneb: ac eisteddodd, gan blygu ei ben tua'r llawr ac wylo y dagrau yn hidl. Dyma
Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/58
Gwedd