Eglwys Loegr, ac amryw eraill ohonynt ar hyd Cymru. Yr oedd Mr. Harris o'r Eglwys hòno, ond nid wedi cael ei ddwyn i fynu i'r weinidogaeth. Felly Cynghorwr yr oeddid yn ei alw ef, Aethant yn y blaen trwy yr holl wlad, a chododd llawer iawn o gynghorwyr o amryw raddau, sef, rhai yn fwy enwog, ac eraill yn llefaru ychydig wrth angen. Felly cynhyrfwyd y wlad. Gadawodd y bobl eu difyrwch pechadurus, a dechreuasant sôn am grefydd, ac ymgasglu ynghyd yn gymdeithasau crefyddol. Felly bu diwygiad mawr yn y wlad. O hyny hyd yn hyn (1777) mae gwybodaeth o Dduw wedi ymdaenu yn rhyfedd trwy Gymru: canys yr oedd lluoedd o bobl o'r blaen, nad oeddynt yn myned yn agos i dý cwrdd nac ond yn anfynych i un Eglwys; eto aent i wrando fel hyn i'r teiau a'r prif ffyrdd a'r caeau."
RHAN III.
Trefn a llwydd ei weinidogaeth.
Gweinyddai Rowlands y rhan amlaf, ar y dechreu, mewn lleoedd cyssegredig. Y Pregethwyr, y rhai a ymunent ag ef, a elwid yn gyffredin yn Gynghorwyr; a phregethent hwy pa le bynag y caent gynulleidfa, ar y maes, neu yn yr heolydd: ac mewn amser codwyd Capelydd, yn yr rhai y traethent eu cenadwri. Yr oedd amryw o'r rhai hyn yn cyrchu i wrando Rowlands ar y suliau, ac yn myned wedyn i gyhoeddi y pethau a glywsent i fanau eraill. Yr oedd Eglwysi Rowlands y pryd hyny yu debyg i wlad yr Aifft yn