nyddiau Joseph: lluoedd mawrion oeddent yn myned i'w wrando ymron o bob parth o'r dywysogaeth, er cael eu porthi â'r bara nefol a gyfranai iddynt. Ac yr oedd amryw yn cyrchu i'w wrando, megis i brynu ŷd iddynt euhunain, i'w teuluoedd, ac i'w cymydogion. Caent ddigonedd llawn euhunain, a dygent i eraill gyfreidiau helaeth.
Llanddewibrefi ydoedd lle yr ymgynull mwyaf, cyn iddo gael ei daflu allan o'r Eglwys, gan fod yr Eglwys hon yn llawer helaethach na'r ddwy eraill. Y mae hon ynghylch pedair milldir o Langeitho, a phump o Lancwnlle, a'r ddwy olaf ynghylch dwy oddiwrth eu gilydd. Y mae Llanddewibrefi mor eang, fel y gall gynhwys o ddwy i dair mil, neu ychwaneg, o bobl; ond nid oedd yn rhy eang y pryd hyny. Nid oedd cyfleusderau i llawer i eistedd. Sefyll ar eu traed yr oedd y rhan fwyaf, a chyn dyned ag y gallent fod, o un cwr i'r llall o'r Eglwys. Yr olwg ar y torfeydd a gyrchent yno oedd yn dra hynod. Yr oedd llawer yn dilyn Rowlands o un Eglwys i'r llall trwy y sul: ac ni ddychwelent adref hyd yn hwyr iawn, ac ond odid, hyd y boreu dranoeth; ac amryw ohonynt heb fwyta dim o fore y sul hyd fore dydd Llun. A gwnaent hyn heb deimlo un anhwyldeb, fel y clywais gan un hen wr, amryw o flynyddau yn ol, ag oedd y pryd hyny dros bedwar ugain oed. Ei dystiolaeth oedd, y gwnaethai ef hyn yn aml ei hun. Yr oedd y bwyd ysprydol a gawsent yn ddigonol dros amser, i'w cynnal heb ddim lluniaeth naturiol.
Gwasanaethai Rowlands ei Eglwysi ei hun fynychaf ar y suliau: ond ar ddyddiau yr wythnos arferasai