Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned i amrywiol leoedd eraill. Bu dros hir amser yn myned unwaith bob mis i'r capelydd hyn:—Twr-gwyn—Waenifor—Ystrad Ffin—Abergorlech—a Llanllian.[1] Nid oedd efe yn teithio cymaint â rhai offeiriaid eraill a ymunasent ag ef, megis, y Parch. Howel Davies, o sir Benfro,—y Parch. Peter Wiliams, cyhoeddwr y Bibl gyda Nodau eglurhaol, tra defnyddiol, a'r Parch. Wiliam Wiliams, awdwr yr Emynau rhagorol a adwaenir yn gyffredin trwy y wlad. Felly y dywedir wrthym yn y "Drysorfa," am Ragfyr, 1809, a gyhoeddid gan y diweddar Barch. Thos. Charles, o'r Bala. Cynhwysir yr hyn a ganlyn mewn "ymddiddan rhwng Scrutator a Senex;" sef, ymofynydd, a hen wr. Y cyntaf, fel y tybir, oedd Mr. Charles eihun, a'r diweddaf oedd Mr. John Evans, hen wr duwiol a pharchus yn y Bala, yr hwn a draethai y pethau a wyddai ac a gofiai amdanynt yn ei ddyddiau blaenorol. Dyma ateb Senex:—

"Daeth y Parchedig Peter Wiliams yma (Gogledd) yn fore. Gwr cryf o gorph ac o feddwl oedd Mr. Peter Wiliams, a phregethwr da. Llafuriodd yn ddiwyd ac yn ffyddlon; bu ei weinidogaeth yn dra bendithiol, a chafodd llawer eu galw trwyddo. Bu y Parchedig Howel Davies yma amryw weithiau. Gwr tirion mwynaidd oedd Mr. Howel Davies, ac yn bregethwr enillgar iawn. Melys yw cofio hefyd am lafur y Parchedig Wiliam Wiliams, yr hwn oedd nodedig am ehediadau cryfion tanllyd, athrawiaeth oleu efengylaidd, yn cael ei thraddodi gyda llawer o ireidd—dra ysprydol, Y tri gwyr hyn oeddent offeiriaid

  1. Capelydd Eglwysig