Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brawd cadpen Davies, Llanfechan, lythyr i Rowlands fel yr oedd yn myned i'r areithfan. Wedi ei ddarllen yn ddirgel wrtho eihun, dywedodd wrth y gynnulleidfa oedd yn bresenol, y rhwystrid ef llefaru. Yna disgynodd o'r areithfan, ac aeth allan, a'r dyrfa luosoga' a'i canlynodd dan wylo; a gadawyd yr Eglwys ynmron yn wag. Ni wnaeth ddim, ac ni ddywedodd ddim, tuag at wrthwynebu gorchymyn ei Uchelydd, er fod ei deimladau yn ddiamheu wedi cael eu cynhyrfu yn fawr. Mewn canlyniad i hyn, codwyd capel tra eang iddo yn Llangeitho, lle y preswyliai; ac yno y bu wedyn yn gweinidogaethu yn benaf hyd ei farwolaeth, sef dros 27 o flynyddau, a chyda llwyddiant hynod iawn.—Af yn y blaen bellach at y pethau a berthynant i'r Rhan hon, a nodaf hwynt dan y penau a ganlynant:—

DOSBARTH I.
Y cyfnewidiad yn ei bregethu, a'i ganlyniadau.

Dywedwyd yn barod mai "Mab y daran" ydoedd ar y dechre, a hyny i raddau na chanfyddwyd, odid, un amser. Cyhoeddi dystryw i fyd annuwiol, oedd yn wneuthur gyda dwysder ac egni un ag a eglur welai ac a ddwfn deimlai eihun y perygl o fyw yn y fath gyflwr. Llaweroedd iawn a ddwysbigwyd yn eu ei calonau; a'r gofyniad cyffredin oedd, Pa beth a wnawn, fel y byddom cadwedig? Nid oes i ni feddwl, nad oedd dim cyfeiriad at drugaredd yn ei bregethu y blynyddoedd hyn: ond mai tra phrin yr oedd hyny yn cael ei wneuthur. Nid trugaredd, ond colledigaeth trwy bechod, oedd yn benaf yn cael ei osod