amryw weithiau, tybiodd yn ddyledus arno ddywedyd rhywbeth amdano; a gwnaeth felly yn y modd canlynol:—" Yr ydych chwi, y Saeson, yn beio arnom ni, y Cymry, ac yn gwaeddi yn ein herbyn, "Neidwyr, Neidwyr." ond y mae genym ninau, y Cymry, achwyniad yn eich herbyn chwithau, y Saeson, a dywedyd yr ydym yn gyfiawn amdanoch, "Cysgiaddurion, cysgiadurion." Dywedodd ei fab wrthyf, gan yr hwn y clywais hyn, na ddarfu i Thornton ddywedyd dimmwy wrtho ynghylch yr arfer hyn o neidio, ac o uchel orfoleddu yn yr ymgyfarfodydd.
Daeth Llangeitho, wedi i Rowlands golli ei Eglwysi, yn gyrchfan miloedd, a ddeuent ymron o bob parth o'r Dywysogaeth; a pharhaodd i fod felly dros ei oes, yn agos i ddegarhugain o flynyddoedd, a thros dro o amser wedi iddo farw. Cyrchent yno yn gyffredin o gylch deg a phymtheg milldir o gwmpas: a deuai llaweroedd bob mis o bellder deugain, haner cant, ac ychwaneg o filldiroedd. Canfyddir wrth hanes bywyd y diweddar Barchedig Thos. Charles yn Saesneg, fod amryw ar brydiau yn myned ynghyd yno o'r Bala, o ddim llai pellder na thrigain milldir.[1] Aent ynghylch ugain a degarhugain, yn un neu yn ddwy dyrfa. Yr oedd rhai ar draed, a rhai ar geffylau. Cychwynai y gwyr traed yn gynar ddydd Sadwrn, a theithient dros y mynyddau, heb un gynhaliaeth oddieithr yr ychydig fwyd a ddygent ganddynt; a'u diod oedd dwfr o'r ffynnonau a gyfarfyddent ar y ffordd. Yr oedd ganddynt eisteddfanau adnabyddus ac arferol ar y mynyddoedd, lle y gorphwysent i fwyta ac i yfed. Gwedi clywed pregeth neu ddwy
- ↑ Gwel Hanes bywyd T. C. Tud, 161.