wedi hyny a brïododd; ac yr oedd hi yn byw yn y Bala. Dyddiad y llythyr yw Rhagfyr 25. 1782, wyth mlynedd cyn marwolaeth Rowlands. Y mae y llythyr fel y canlyn:
"Da genyf eich bod wedi dychwelyd yn ddiogel o Langeitho. Yn awr gan eich bod wedi dychwelyd, y mae yn dda iawn genyf eich bod wedi bod yno. Yr wyf yn uno â chwi o'r galon yn y dymuniad am i mi hefyd fod yno. Y cof sydd genyf o'r pregethau a glywais yno chwech neu wyth mlynedd yn ol, a wna fwy o les i mi na dim a glywais wedi hyny. Fy nghyrchfa yno yn y gwyliau, ddwywaith yn y flwyddyn, pan yn yr ysgol yn Nghaerfyrddin, oedd yn fwy buddiol i mi na'r holl bregethau a glywais yn y cyfrwng amser. Y mae genyf gan hyny bob achos i uchel-feddwl am y gwr mawr a da hwnw o eiddo Duw. Siomiant mawr i mi oedd methu ei glywed yr haf diweddaf, ac nid oes dim a hiraethaf yn fwy amdano, na 'i weled ef cyn ei farw. Diolchaf yn fawr i chwi am y cyfrif rhagorol a roisoch i mi am ei bregeth. Gallaf yn eglur olrhain y gwr mawr hwnw yn y darlun a ddanfonasoch. Ac y mae rhywfaint hefyd o flâs ac archwaeth Llangeitho yn yr ail argraffiad a roddir genych. Canfyddaf yn amlwg na fuoch yno yn ofer, ond i'r daith ateb y dyben. Y mae bendith ysprydol yn werth ei chael, pe gorfyddai i ni fyned ar ymdaith i Jerusalem i'w chyrchu."
Tueddir fi i wneuthur dyfyn chwanegol o'r un hanes, gan y dengys lwydd yr achos diwygiadol, a'r ymgyrch mawr oedd i Langeitho. Rhan o lythyr Mr. Charles yw at gyfaill ym mis Awst o'r flwyddyn