Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darfu ei Fab Nathaniel gymeryd ei le: ond nid oedd yn gwbl mor luosog mwyach, canys codwyd capelydd eraill mewn amryw fanau, a byddai offeiriaid a phregethwyr tra doniol yn gweinyddu ynddynt. Y mae yr ysgrifenydd ei hun yn cofio yn dda, y byddai yno ymgrynhoi hynod, ynghylch deg a phymtheg, ac hyd yn nod ugain mlynedd wedi marwolaeth Rowlands. Gwelodd yno lawer gwaith amryw filoedd wedi dyfod ynghyd, yn neillduol ar suliau y Cymun. Bydddai yno ganoedd lawer o geffylau, yn cael eu clymu yn rhesi wrth y cloddiau; a rhai o'r caeau yn llawnion ohonynt, fel pe buasai yno ryw Ffair fawr yn cael ei chadw. Tebyg yw, nad oes un man yn y Hynod deyrnas, nac odid, yn yr holl fyd, lle y bu cymaint o ddynion yn ymgynull i wrando yr Efengyl, a thros gymaint o amser, a Llangeitho. Parhaodd yr ymgyrch rhyfedd hwn yno, o leiaf, dros haner cant o flynyddoedd, heb ddywedyd dim am y pum mlynedd arhugain, pan oedd yr ymgynull yn Llancwnlle a Llanddewibrefi yn gystal ag yn Llangeitho. Rhaid bod yno ryw draddodi hynod, a bendithion helaeth iawn yn cael eu tywallt, cyn y byddai y fath ymgynull yn parhau mor ddidawl a diflino dros gymaint amser.

Yr oedd gweinidogaeth Rowlands, fel y dywedwyd eisoes, yn fwy sefydlog nag eiddo neb o'r offeiraid a ymunasent ag ef. Ni weinyddent hwy yn gyffredin mewn un lle pennodol; a'r rhai a barhaent i weinidogaethu yn yr Eglwys sefydledig, ni chaent debyg y fath nifeiri o wrandawyr ag oeddent yn ymgrynhoi yn Llangeitho. Yn Llangeitho yr oedd y deml, a'r gyniweirfa fwyaf. Y lleoedd eraill oeddent megis y