Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfarfu a'r gwâs, at yr hwn yr ymddygai fel brawd yn yr Arglwydd, dywedodd wrtho, nad allai efe ddim pregethu y bore dranoeth, gan nad oedd ganddo ddim i'w ddweud wrth y bobl. "Oh," meddai ygwâs, "peidiwch a gweud felly, Mr. Rowlands bach, pwy arall a allwn ni gael?" Er hyn parhau yr ydoedd i ddweud yr un peth, sef, nad allai efe ddim pregethu dranoeth; a dywedai hefyd, nad oedd Duw wedi rhoddi iddo ddim i'w lefaru wrthynt. Fel hyn y parhaodd, yn amlwg mewn mawr ofid meddwl, nes iddo fyned i orphwys dros y nôs. Bore dranoeth, pan aeth y gwâs i'w ystafell, yr oedd ar ddihun; ac yr oedd llyfr ar y gadair wrth ochr y gwely. Dywedodd y gwâs wrtho, ei bod yn amser codi, sef ynghylch saith o'r gloch; ond ni chafodd un ateb. Wedi ei ddisgwyl gryn amser, aeth i mewn drachefn, ac a'i cymhellodd i godi, gan ddweud fod y pryd i fyned i'r Capel yn neshau. Ei ateb oedd, nad allai efe ddim pregethu, a bod yn rhaid iddynt ddanfon am ryw un arall. Ond arferodd y gwâs bob peth a allai feddwl amdano er ei gymhell i godi ac ymwisgo: ac aeth allan drachefn gan obeithio y byddai iddo wneuthur felly. Yr ydoedd yn tynu yn awr at ddeg o'r gloch, pryd y dechreuid y gwasanaeth yn Llangeitho, a'r bobl yn crynhoi ynghyd o bob parth yn lluaws mawr iawn. Gwedi aros ychydig, aeth y gwâs drachefn i'w ystafell wely, a chafodd ef yn yr un agwedd, ac yn parhau i ddweud, nad allai efe ddim pregethu y bore hwnw. Pa fodd bynag, rhwng bodd ac anfodd, cafodd ganddo ddyfod o'r gwely; a chynnorthwyodd ef i ymwisgo (yr hyn nid oedd arferol) gan ei fod fel pe buasai wedi colli holl nerth ei gorph, ac yn