ymddangos fel dyn wedi ei haner labyddio. Ond wedi iddo ymwisgo, nid boddlon oedd ganddo fyned i'r Capel; ac nid aethai chwaith, oni buasai i'r gwâs ei ddwyn yno mewn rhan o'i anfodd. Pan gyrhaeddasant y Capel, yr oedd y gwasanaeth, sef, y gweddïau, (a ddarllenid yn gyffredin gan un o'r offeiriaid a'i cynnorthwyai ar suliau y Cymun) a'r canu hefyd, ar ddarfod. A dywedodd ei hen was wrthyf, fod gorfod arno ei gynnal a'i wthio i mewn i'r areithfa, gan ei fod megis yr hollol ddinerth. "Yr oeddwn yn gwybod, meddai yr hen wr, ag oedd dros bedwar ugain oed pan welais ef, wrth adrodd hyn wrthyf, os caem ni ef unwaith i'r Pulpud, y byddai pob peth o'r goreu. Ac wrth ei hanes, ni chafodd efe, na'r gynulleidfa chwaith eu siomi. Pan ddechreuodd ei bregeth, yr oedd yn ymddangos yn egwan iawn, y llais yn isel, yr aelodau megis yn ymollwng, a'r holl gorph yn grynedig. Ond bob yn ronyn adfywiodd ac ymgryf Cryfder haodd; a chyn pen deng munud, yr oedd yn llefaru wendid, gyda rhyw nerth anarferol, a mawreddusrwydd digyffelyb. Ei eiriau oeddent megis lluchedenau yn ymdaenu dros yr holl le, oddimewn ac oddiallan, canys ni chynwysai y Capel nemawr mwy na haner y llu mawr ag oedd wedi ymgynull. Yr effaith ar y dyrfa oedd yn fwy hynod na chyffredin. Darfu canoedd ohonynt dori allan mewn gorfoledd, cyn iddo haner dybenu ei bregeth, a pharhasant yn y lle dros oriau yn canu, molianu a gorfoleddu. Ni pharhaodd efe i bregethu mwy na phymtheg neu ugain munud.
Nid hir yn gyffredin yr ydoedd yn pregethu. Yn ol tystiolaeth ei Fab, ynghylch tair rhan o awr oedd