Prawfddarllenwyd y dudalen hon
RHAGFYNEGIAD.
NID anaddas, fel y tybiaf, yw gosod, o flaen Coffhad o fywyd Rowlands, fynegiad byr am y rhai mwyaf enwog yn achos Gwir Grefydd yn Nghymru o amser y Diwygiad mawr oddiwrth Babyddiaeth hyd ddechreu y canrif hwn. Dylai eu henwau fod mewn coffadwriaeth parhaus, am y daioni a'r lles a wnaethant i'w cydgenedl. Gwedi rhoi hysbysiad byr amdanynt, gosodaf Daflen, a ddengys yr amser y buant byw, ac yspaid bywyd pob un, fel y canfydder y pethau hyn ar yr un golwg. Y rhai canlynol a dybiaf yn fwyaf enwog:
1. William SALESBURY, Yswain.
Ganwyd y gwr rhagorol hwn yn y Plas-isaf, yn agos i Lanrwst, tua dechreu y canrif unfed ar bymtheg. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Rhyd-