ei amser fynychaf. Dywedodd wrthyf am un tro, pan y cofiai iddo bregethu yng Nghapel Llangeitho dros dair awr; ac ni amlygai y lluaws ydoedd yn ei bregethau, wrando ddim arwyddion o'u bod wedi blino, eithr eu bod wedi cael rhy fach, yn hytrach na gormod. Yr ydoedd ar ddechre ei weinidogaeth yn parhau yn aml i lefaru dros hir amser. Pregethai, fel y clywais, yn Llancwnlle, a'r brydiau, dros dair neu bedair o oriau: ond nid mynych y gwnai hyn: a rhyfedd, pan feddyliom am ei arfer egniol, bod ganddo nerth i barhau, unrhyw bryd,[1] dros gymaint amser, a'i fod yn gallu cadw y fath gynulleidfaoedd lluosog, mor wrandawus a diflino. Nidoedd byth achwyn ar ei feithder; ond yr oedd aml achwyn ar fyrdra ei bregethau. Ond awn rhagom yn awr at y peth nesaf.
DOSBARTH 2.
Y Cymdeithasau.
Agos yn gydoedol â gweinidogaeth ddeffrous Rowlands, yr ydoedd dau fath o sefydliadau, a barhant eto ymhlith eu ganlynwyr. Un ohonynt oedd y gymdeithas neillduol, a'r llall ydoedd y gymdeithas gyhoeddus, a gedwid bedair gwaith yn y flwyddyn, ar gylch, mewn amrywiol fanau. A buont yn ddiamheu o fawr ddefnydd er dwyn yn y blaen achos gwir grefydd yn y wlad. Yr oedd y gyntaf yn foddion buddiol iawn er cyduno y rhai crefyddol a'u gilydd ; a'r ail, er ehangu gwybodaeth o'r efengyl trwy bregethiad cyhoeddus. Gwnaf ychydig sylwadau ar y ddwy gymdeithas yn benodol.
1. Y gymdeithas neillduol (private society.)
Nid Rowlands a ddechreuodd hon, ond Howel