Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwragedd: ac er mor gymysg y gynnulleidfa, gweddeidd-dra, rheolaeth, a sobrwydd a gedwid yn gyffredin. Pwyllogid y mwyaf anystyriol, a difrifolid y mwyaf ysgafn a difeddwl, gan ddwysder, awchlymrwydd, a phwysedd yr athrawiaethau a draddodid. Pelydrai goleuni y nef gymaint, fel na ellid dwyn ymlaen weithredoedd y tywyllwch. Yr oedd Rowlands yn cael ei benodi i bregethu unwaith bob amser, a dwywaith ar droion. Pregethodd, fel y gwelsom wrth lythyr Mr. Charles, ddwywaith ar yr achos, hyd yn nod yn Llangeitho, ei breswylfod ei hun. Gallwn wrth hyn feddwl mai felly y gwnai yn fynych mewn lleoedd eraill. A dywedwyd wrthyf gan un a'i hadwaenai yn dda, ac a'i clywodd ar amryw achlysuron, nad oedd neb i'w gystadlu ag ef ar y fath amserau. "Pa mor rhagorol bynag y llefarid o'i Rhagoroldeb flaen," meddai y gwr hwn, "dywedai Rowlands mewn deng munud yr hyn, o ran sylwedd, dwysder, ac ardderchowgrwydd, ac o ran effaith amlwg ar y gynulleidfa, a dra rhagorai ar yr hyn oll a draddodid o'r blaen." Yr oedd rhywbeth tra neillduol yn perthyn i'w lefaru a'i weinidogaeth.

Ond nid pregethu yn unig ydoedd dyben y cyfarfodydd hyn. Yr oedd yr ymgyweithas yn ymgynullfa Offeiriaid a phregethwyr a berthynent i'r cyfundeb. Yr oedd yn fath o gwlwm cymundeb rhwng y gweinidogion. Rhoddai yr ymgynull hwn iddynt hefyd gyfleusdra i ddanfon eu cyhoeddiadau trwy y wlad. A chyda hyn, hwylusai a chadarnhai gyfeillach crefyddol rhwng y gweinidogion, a'r bobl hefyd. Yn y cyfarfod hwn, yn enwedig, ar y cyntaf, holid y