Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rowlands, ond hefyd mewn lleoedd amgylchol. Pa mor eang yr ymledodd, nis gellais gael gwybod.

Yr ail ddadebriad o'r fath hyn a ddechreuodd mewn cyfarfod gweddi yn Llangeitho, a gynhelid gan yr aelodau. Darfu i hwn, fel y cyntaf, ymdaenu dros amryw barthau o'r wlad, a hyny trwy gyfarfodydd gweddi yn gystal a thrwy bregethu; ond yn fwyaf neillduol trwy y weinidogaeth gyhoeddus.

Y trydydd adfywiad a gymerodd le ychydig amser wedi i Rowlands gael ei amddifadu o'i Eglwysi: ac y mae yn debyg mai hwn a elwid, "Y Diwygiad mawr," oherwydd ei helaethder, gan iddo ymledu ymron dros holl siroedd y Deheudir, ac oherwydd y diwygiad, nifeiri lluosog a gawsent eu deffroi a'u dwyn o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw." Dechreuodd yn Nghapel Llangeitho, tra yr oedd Rowlands yn pregethu. Cofiai ei Fab am hwn, a dywedodd wrthyf, fod yr effaith yn hynod iawn. Yr oedd yr holl Dŷ fel pe buasai wedi ei lenwi â rhyw elfen oruwchnaturiol, a'r holl dyrfa wedi ei tharo â rhyw syndod rhyfedd, a'i chynhyrfu yn dra hynod;—canoedd ohonynt a'r dagrau yn dyhidlo dros eu gruddiau; rhai o orlawnder tristwch, a rhai o orlawnder gorfoledd; rhai yn ddrylliedig gan edifeirwch, a rhai yn ymhyfrydu gan lawenydd nefol.

Nid oes genyf un hanes am y rhai eraill, oddieithr i un ohonynt gael ei achlysuro gan Emynau W. Wiliams. Dywedir i ddiwygiad ddechreu pan ddygwyd ei Emynau gyntaf i arferiad i Langeitho, ac iddo ymdaenu yn helaeth trwyddynt. Nid rhyfedd yr ymddengys hyn, pan ystyriom eu hansawdd. Cynhwysant