Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychain; ac aeth wed'yn i Lundain er cael hyddysgrwydd yn y gyfraith wladol. Nid arosodd yno yn hir; ond dychwelodd i'w wlad enedigol. Cyfaneddodd, fel y dywedir, yn y Cae-du, Llansannan, Sir Ddinbych. Ei fryd neillduol oedd ar ddysgu ieithoedd, a gwyddai, meddir, naw ohonynt, heblaw y Saesneg a'r Gymraeg. Cyhoeddodd amryw lyfrau yn iaith ei wlad. Y rhai canlynol a briodolir iddo yn y 'Gwyliedydd' am y flwyddyn 1826, tudalenau 194, 195. Y trydydd Llythyr o eiddo Garmon ydyw:

1. Geirlyfr Saesneg a Chymraeg, yn y flwydddyn — 1547
2. Calender o fisoedd a dyddiau y flwyddyn
3. Dymchweliad allawr uchel y Pab — 1550
4. Arweinydd hawdd ac eglur i'r iaith Gymraeg — 1550
5. Cyfieithad o'r Epistolau a'r Efengylau — 1551
6. Rhetoreg,neu Egluryn Ffraethineb
7. Cyfieithad o'r Testament Newydd — 1567


Y cyntaf, ac fe allai, y ddau gyntaf, a gyhoeddodd yn nheyrnasiad Harri yr wythfed. Y tri canlynol, 3, 4, 5, a ddaethant allan o'r wasg yn amser Edward y chweched. Y nesaf, sef y 6, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth, gan y Parchedig H. Perri; a dywedir i'r gwr dysgedig hwn ei ddiwygio, a chwanegu ato.

Ond y gwaith penaf, a ymafaelodd ynddo, ydyw y diweddaf yn y rhestr hon, sef, Cyfieithad o'r Testament Newydd; a'r hyn yn ddiau a fythola ei enw. Cynhorthwyid ef yn enwedig gan ddau eraill, sef, y Doctor R. Davies, Esgob