wirioneddau tra efengylaidd a chynhyrfiol, mewn iaith eglur a sathredig, ac ar fesurau rhwydd a hawdd eu canu. Gwelir ynddynt yn aml y syniadau mwyaf goruchel a nefolaidd wedi eu gosod yn yr ymadrodd egluraf. Ac y mae mewn amryw ohonynt y fath olygiadau ardderchog a gogoneddus o fawredd y Cyfryngwr, o helaethder ei gariad ac o amledd ei rad, fel nad all ymron neb eu canu, na'u darllen chwaith heb deimlo eu cynhyrfiol effeithiau. Nid hynod oedd W. Wiliams fel Pregethwr: ond ni fu un amser, ac nid oes eto, neb yn Nghymru, a ellir ei gystadlu ag ef, fel cyfansoddwr Emynau. Yr oedd ef yn hyn yn rhagori ymron gymaint ar bawb eraill, ag yr ydoedd Rowlands yn rhagori ar eraill fel Pregethwr.
Yr oedd y diwygiadau hyn yn cael eu cyfrif yn foddion neillduol er adfywio crefydd yn y wlad. Yr oedd rhai pethau yn cydfyned a hwynt, ac yn eu canlyn, a barent i rai eu hanghymeradwyo: ond gwnaed hyn yn fwyaf cyffredin yn unig gan annuwiolion y byd. Yr oedd yn cydfyned â hwynt â agweddau nad oeddynt yngolwg rhai yn weddus. Yr oedd neidio wrth folianu yn arfer gyffredin ynddynt: a chaniateid i'r teimladau dori allan mewn modd a ymddangosai yn afreolaidd. A'r hyn a'u canlynai yn fynych ydoedd gwrthgiliad: amryw o'r rhai a ymunent yn y molianu tanbaid a chyhoeddus, a droent yn ol i gyfeillach ac ymarferiadau ofer y byd. Er hyn oll, yr effaith yn gyffredin ydoedd yn ddiamheu yn llesiol er ymdaeniad gwir grefydd. Llawer iawn a gaent eu troi at wir dduwioldeb; a dylynent ei llwybrau hyd eu diwedd. A byddai yr adfywiad