Nghymru. Nid oes genyf ddim ond yr hyn sydd anogol i'w gyfranu. Cawsom yn ddiweddar Ymgyweithas gysurus yn Mhwllheli. Yr oedd yn wyddfodol rai miloedd; mwy nag a welwyd erioed o'r blaen. Ac yma yn y Bala, ni a gawsom dywalltiad mawr iawn, nerthol a gogoneddus, o'r Yspryd, ar y bobl yn gyffredin, yn neillduol, ar blant ac ieuenctid. Ugeiniau o'r ieuenctid gwylltaf a mwyaf anystyriol, yn feibion ac yn ferched, a gawsant eu dadebru. Tra amlwg a grymus a fu eu hargyhoeddiadau, acmor ddwfn mewn rhai, nes eu dwyn i gyffiniau anobaith. Yr un mor gryf hefyd a fu eu cysuron. Os rhynga bodd i Dduw yn ei rad barhau y gwaith, fel ag y bu dros rai wythnosau yn ol, fe fydd teyrnas y Diafol ar fin distryw yn y gymydogaeth. Marchoga yn dy flaen, Frenin y gogoniant, marchoga yn dy flaen, ydyw llef daer fy nghalon ddydd a nos. Yr wyf yn cwbl gredu y bwriada yr Arglwydd roddi siglad arswydus i deyrnas y tywyllwch; oherwydd y mae yn cymeryd ymaith ei cholofnau. Y rhai oeddent flaenaf yn ngwasanseth Satan ac mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, ydynt yn awr yn flaenaf yn y gwaith o geisio iechydwriaeth trwy waed yr Oen. Y mae yn waith hawdd pregethu efengyl y deyrnas yma y pryd hwn. Y mae gwirioneddau dwyfol yn cael eu pwys a'u dwysder anfeidrol euhun ar feddyliau y bobl. Pelydrau goleuni dwyfol, ynghyd a dwyfol weithrediad diwrthrynadwy, ydynt yn cydfyned â phob gwirionedd a draddodir. Peth gogoneddus yw gweled fel y crymir y calonau gwrthnysicaf, ac y toddir
Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/93
Gwedd