nid oedd genym foddlonrwydd ar y cyntaf, ydynt ar gynydd gobeithlawn."—[1]
Oddiwrth y pigion rhagflaenol o lythyrau Charles, gallwn weled pa fath oedd yr ymweliadau rhyfedd hyn: a'r darluniadau uchod ohonynt a roddwyd gan un a'u canfyddodd eihun, a'r hwn oedd yn dyst o'u heffeithiau. Os ydoedd gwahaniaeth rhyngddynt a'r rhai blaenorol yn y Deheudir, yr ydoedd yn y gradd y teimlid yr argyhoeddiadau, ac yn eu parhad, ac o ganlyniad, yn mesur y diddanwch a ganlynai. Amrywient hefyd, ef allai, yn eu helaethder. Y rhai a sonia Charles amdanynt a gyfyngid i barthau neillduol o'r wlad; ond y rhai a füont yn y Deheudir a ymledent yn gyffredin dros amryw siroedd, ymron ar yr un amser. Ond yr adfywiadau oeddynt o'r un nodweddiad; eu hymddangosiad hefyd a'u heffeithiau oeddynt yr un.
Y mae tystiolaeth y duwiol Charles, am eu lles a'u buddioldeb, yn eglur ac yn benderfynol. Barnai yn ysgrythyrol amdanynt, sef wrth y "ffrwythau" a ganlynent. Tybiai a chredai fod y gwaith yn dda, gan y dygai firwythau da. Y mae amryw ffyrdd i ddarparu a thrin y tir, ac o daflu yr hadau i mewn iddo; ond y modd i farnu am y tir ac am yr had, yw edrych pa fath yw y cynnyrch, y ffrwyth a ddygir i berffeithrwydd. Barned a dyweded dynion a fynont am y gwaith hynod hwn, diau mai gwaith da, a gwaith Duw ydoedd, gan fod ei ganlyniadau yn eglur dystiolaethu hyny. Yr oedd pechaduriaid yn cael eu cyfnewid, yn edifarhau ac yn credu, yn ymadael â ffyrdd pechod, ac yn dilyn llwybrau cyfiawnder. Yr
- ↑ Yr un, Tud. 256.