oeddynt yn troi o fod yn ddiweddi ac yn ddigrefydd, i fod yn weddïwyr diwyd, ac yn grefyddwyr gwresog a difrifol, heb fynwesu un dychymyg, neu ddaliad, anghytunol â gwirioneddau sylfaenol yr Efengyl.
Gall fod amrywiaeth helaeth yn y moddion a'r ffyrdd trwy ba rai y gwneler yr Efengyl yn effeithiol: ond os y dyben mawr a atebir, sef, dychwelyd pechaduriaid i gymod gwir â Duw, nid oes achos beio ar y moddion, os na fyddant yn groes i'r gair dwyfol. Pe byddai pawb yn dal eu golwg yn benaf ar y dyben pwyslawnaf hwn, gan gyd-dwyn a'u gilydd mewn pethau eraill, byddai o fawr les i achos gwir grefydd. Nid yn unig y peth mwyaf, ond hefyd y peth ag sydd yn unig o ganlyniad, yw troedigaeth pechadur. Nid yw y ffordd hon, neu y ffordd arall, y drefn hon, neu drefn arall, yr offerynau hyn, neu yr offerynau eraill, o ddim pwys, ond yn y mesur y byddont yn cael eu bendithio er troi dynion o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant satan at Dduw. Gellir rhoi gormod pwys hyd yn nod ar y moddion a drefnwyd yn bendant gan Dduw eihun: a gwneir felly, pan eu golygir. mewn un rhan, yn ddigonol neu yn effeithiol, heb fendith y Nef arnynt.
RHAN IV,
Rhagoriaethau Rowlands fel Pregethwr.
Teimlaf mai analluog wyf i drin y dosbarth hwn mewn modd dyledus. Tebygol yw, mai prin neb o'r rhai a glywsent Rowlands yn fynych, a dybient euhunain yn alluog i fynegi eu meddyliau yn gyflawn am ei