ragoroldeb fel traddodydd gwirioneddau dwyfol. Darfu i amryw gyfodi yn ei ddydd ag yr oedd ganddynt ddoniau helaeth fel Pregethwyr, rhai offeiriaid, a rhai Llefarwyr: ond dywediad pawb a glywais yn son am dano, ydoedd, nad oedd neb o'r rhai hyn oll a ellid eu cystadlu á Rowlands. Yr oedd yn tra rhagori yn ei ddawn hwn ar bawb eraill. Hyn ydoedd cydsyniad pawb, dysgedig ac annysgedig, pregethwyr a gwrandawyr, heb un gwrthddywediad, heb uu amheu Gadawodd ar ei ol lawer o ddoniau godidog, a chyfododd rhai o'r fath gwedi iddo farw. Ond yr hyn a draethai pawb a'i clywsant, ydoedd, Na chlywsent neb yn pregethu mor ardderchog a Rowlands. Rowlands. Yr oedd ei Fab Nathaniel yn tebygu iddo yn ei ddawn ; ond nid oedd yn pregethu fel ei dad. Hynod doddD. Jones. edig oedd gweinidogaeth Jones o Langan; ond nid oedd i'w gydmaru â Rowlands. Tebyg iddo, fel y D. Griffiths. clywais, o ran rhai pethau oedd y rhagorol Griffiths o Nevern; ond nid Rowlands chwaith oedd efe, er mor odidog y pregethai. Dywedir mai y tebycaf iddo o bawb oedd Robert Roberts[1], pregethwr hynod o'r Gogledd; ac eto nid oedd efe i'w gyfartalu yn gwbl â Rowlands. Pan ofynais i'w Fab, yr hwn a adwaenai Whitfield, i ba un ohonynt y perthynai y rhagoriaeth, ei ateb oedd, y cyfrifai ei dad, a hyny yn ddiduedd, wrth ystyried pob cymhwysder, yn fwy pregethwr. Hyn oedd barn eraill hefyd, ag a gawsent y cyfleusderau o glywed y ddau. Yr oeddent yn tebygu i'w gilydd mewn amryw bethau; ond yn ol yr hyn a allaf ddeall, yr oedd gan Rowlands deimladau mor danbaid a Whitfield; ond yr oedd ganddo
Tudalen:Coffhad am Y Parch Daniel Rowlands.djvu/99
Gwedd