mewn symledd, er na's gallaf, fe allai, mewn trefn fanwl.
Fe'm ganwyd yn Nghaerwys, yn Sir Flint, o ddeutu diwedd Chwefror, 1756. Fy rhieni oeddynt mewn sefyllfa ganolig; yn byw ar dreftadaeth fechan oedd yn eiddo fy Nhad.—Un o'r pethau cyntaf wyf yn ei gofio am danaf fy hunan, yn fy mebyd, yw, fod ymddyddanion, neu grybwylliad, a glywn am y nef, neu uffern, ac weithiau breuddwydion hefyd yn cael effaith gryn ddwys arnaf. —Cefais fy rhoddi mewn ysgol cyn bod yn bedair oed; ac yr oedd ynof duedd ac athrylith i ddysgu tu hwnt i blant yn gyffredin. Fy rhieni, wrth weled hyn ynof, a fwriadasant, ac a addawsant wrthyf, fy nwyn i fynu i fod yn Eglwyswr; yr hyn a'm boddlonodd yn fawr.
Rhyngodd bodd i'r Arglwydd ddwyn ymaith fy Mam, trwy farwolaeth, pan oeddwn yn saith oed: a'r cyfryw oedd ei hoffder a'i mawr dynerwch tu ag attaf, fel y bu arnaf hiraeth am dani tros hir amser. Fy Nhad a briododd eilwaith: ac yr oedd yn fy Llysfam rywfaint o ogwyddiad i wrando ar y Methodistiaid. Mi aethum gyda hi unwaith neu ddwy i'r Cyfarfodydd, ac a synnais beth wrth weled