Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod rhyw berson, neu bersonau, yn arfer geiriau anaddas am Iawn y Cyfryngwr, na roddwch hynny yn erbyn y Corph: Ond nodwch y cyfryw, fel y galler eu galw i gyfrif, naill ai mewn Cyfarfod Misol, neu Association. Yr y'm o'n calon yn dymuno i chwi bob llwyddiant, ac yn deisyf arnoch, gyd â phob hynawsedd, na dderbynioch, ac na choelioch mo bob chwedlau a glywoch am eich brodyr; gan rai a ddrwg-liwiant bethau yn waeth nag y b'ônt. Ni oddef brŷs ychwanegu; —Yr ydym oll, yn un—llais, yn cyd-garedig gofio atoch, gan ddifrifol ddymuno eich llwyddiant. Ydwyf, dros y Corph,

"Eich anheilwng Gyfaill,
"Tra b'wyf,

"ROBERT JONES."

Anfonodd Mr. Jones Lythyr drachefn, yn mhen blwyddyn, lled debyg i'r hwn a anfonasai i Gaernarfon, at y Brodyr yn Nghymdeithasfa Pwllheli: Yn yr hwn yr ydoedd arwydd o'i fod mewn profedigaeth a gofid chwerw, o eiddigedd dros yr Athrawiaeth; rhag ofn ei bod yn cael cam; oddiwrth rai ymadroddion y clyw-