Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sai efe fod yn cael eu harferyd. Anfonwyd y Llythyr canlynol oddiwrth y Brodyr yn ateb i Lythyr Mr. J.

Pwllheli, Hydref 1af, 1817.

"ANWYL FRAWD,
"Derbyniasom eich Llythyr, yr hwn a ddarllenasom yn y Commitee am wyth ar gloch y boreu. Fe a'i gwrandawyd, ac ystyriwyd ei gynnwysiad gyda phwyll; arwyddwyd hefyd y' tiriondeb, a'r caredigrwydd mwyaf tu ag atoch, yn eich profedigaeth.

"Amlygwyd hefyd yr anfoddlonrwydd mwyaf, tu ag at y rhai sydd wedi arfer ymadroddion megis "Pe buasai chwaneg i'w hachub, y buasai raid i Grist ddyoddef ychwaneg, &c." a phob ymadroddion ereill ag sydd yn tueddu i osod terfyn i ANFEIDROLDEB Y PERSON, ei ABERTH a'i Iawn. — Ac yn y Cyfarfod ddeg ar gloch, fe alwyd i gyfrif rai personau, ag oedd wedi bod yn euog o arfer y cyfryw ymadroddion; a derbyniasant y rhybudd mewn tiriondeb, gan addaw eu gadael heibio, rhag llaw.—Y'mhellach, fe ddarllenwyd, allan o'r Drysorfa, yr hyn a gydunwyd arno mewn