Association, er ys naw mlynedd yn ol: A barnwyd fod yr ymadroddion hynny, ar Brynedigaeth, fel canol-bwynt; neu gynllun o'r modd y dylid gosod allan yr Athrawiaeth o Brynedigaeth, wrth lefaru am dani: Ac os oes gradd o wahanol olygiadau gan rai arno, rhoddwyd gorchymyn na byddai i neb ei osod allan mewn dull i ddangos fod dim dadleuaeth yn ein plith. —Gan gydnabod fod pawb, yma, yn ddarostyngedig i lawer o anmherffeithrwydd, rhoddwyd taer annogaeth i oddef ein gilydd mewn cariad.
- "Ydwyf dros yr Association,
- "Eich annheilwng Frawd,
- "Ydwyf dros yr Association,
"GABRIEL DAVIES."
Anfonodd Mr. Jones Lythyr at y Gymdeithasfa yn Neheubarth Cymru; cynnaledig yn Llangeitho, Awst 18 a'r 19, 1819, yn achos ei ysgrifeniadau, &c; a chafodd yr ateb tirion canlynol oddiwrth y Brodyr yno: Yr hyn sy'n profi, tu hwnt i bob dadl, ei fod mewn undeb serchus a'r Corph, drwy Gymru oll.