Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Rhan o Lythyr Gymdeithasfa Llangeitho, at Mr. Jones.
Tref Caron, Medi, 1af, 1819.
"ANWYL A PHARCHEDIG FRAWD,
Derbyniwyd eich Llythyr brawdol a charedig, at y Gymdeithasfa yn Llangeitho, a darllenwyd ef ger bron yr holl Bregethwyr a'r Henuriaid; ac wedi cymmeryd ei gynnwysiad dan ddwys ystyriaeth, penderfynwyd yn un llais,
"Bod yr oll o'r hyn ydych wedi ei gyhoeddi yn dra chymmeradwy ganddynt, fel Corph, trwy Ddeheubarth Cymru.
"Ar ol amryw ymadroddion yn rhagor, nad oes angenrhaid eu gosod i lawr yma, y mae'n dybènu yn y modd serchiadol, parchus, canlynol, Gyda charedig annerch at anwyl Mrs. Jones a chwithau,
- "Ydwyf, dros y Corph,
- "Gyd â'r parch mwyaf diffuant,
- "Eich gwas gwael, a'ch Brawd annheilwng,
- "Gyd â'r parch mwyaf diffuant,
- "Ydwyf, dros y Corph,
"EBENEZER RICHARDS. "
Ysgrifenydd y Gymdeithasfa."