Gosodwn ger bron ein darllenwŷr ran o lythyr Gweinidog parchus, o'r Dëau; yn yr hwn y mae efe yn dwyn ei dystiolaeth o blaid Llyfr Mr. Jones ar Brynedigaeth.
AR ol cyfarchiad Cristnogol, a Brawdol, y mae'n dywedyd fel y canlyn,
"Am eich llyfr am anfeidrol werth Aberth Crist, yr wyf yn ei gyfrif yn odidog, ac yn gwbl iachus o ran yr athrawiaeth; ac yn werthfawr iawn o ran ei gyfansoddiad, drwyddo oll; i raddau mawr yn deilwng i'r gwirionedd y mae yn ei amddiffyn; Ac yn addas i'r person gogoneddus y mae yn dywedyd am dano. Yr wyf yn gwybod am amrywiol o'r Brodyr, wedi cael pleser mawr, a budd sylweddol wrth ei ddarllen; ac effeithiau daionus ar ei meddyliau:—a gallaf finnau ddywedyd yr un peth. "Eich annheilwng Frawd,
"Ε. Μ."
Rhanau o lythyr oddiwrth Weinidog arall, o Lundain, yn dangos ei barch diffuant i Mr. Jones; —y boddlonrwydd, a'r hoffder, oedd