Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ganddo yn ei Lyfr ef ar Brynedigaeth—a'r buddioldeb a gawsai efe wrth ei ddarllen.
Ar ol cyfarch Mr. Jones yn y modd mwyaf caredig, gostyngedig, a syml; y mae yn myned y'mlaen fel y canlyn,
"MEWN perthynas i gywirdeb a theilyngdod eich llyfr, Syr, rhyfygus a fyddai i math i ddywedyd dim. Gallaf weled eich bod wedi hwylio, gyd â medrusrwydd a chynhildeb mawr, rhwng [1]Charybdis a Scylla: C. Evans, a J. Roberts wyf yn feddwl; a diammau gényf —y'ch bod chwi yn nes i'r gwirionedd nag yr un o'r ddau Am danaf fy hun, Syr, rhaid i mi addef fy mod yn tueddu at yr hyn a elwir Uch-
- ↑ Y geiriau hyn ydynt eiriau ffugurol yn cyfeirio at y ddiareb Lladin—Incidit in Scyllam, dum vult vitare Charybdim, Yn arwyddo un wrth geisio gochelyd perygl ar y naill ochr, yn syrtbio i berygl mwy yr ochr arall.Craig beryglus ydyw Scylla, ar y llaw ddehau, neu ar ochr Itali; a llyn tro dychrynllyd ydyw Charybdis, ar y llaw aswy neu ar ochr Sicili; yn union ar ei chyfer. Dywedir y bydd y llyn tro hwn yn llyngcu llongau yn eu "crynswth, ac ar ddychweliad y llanw, yn eu bwrw i fynu yn ddarnau.Bod un yn gallu hwylio ei lestr rhwng Charybdis, a Scylla, sydd yn arwyddo ei fod yn cadw cyfrwng rhwng dau bellder, neu ganol-barth rhwng dau eithafnod.
"Nid da rhy o ddim."
CYHOEDDWR