Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

el-Galfiniaeth: (Hyper-Calvinism) ac fel y cyfryw, fy mod yn dal Prynedigaeth neillduol yn lled frwd. Yr wyf yn benderfynol yn credu, mai personau, ac nid pethau, a brynwyd: ac 'mai personau ei bobl etholedig a brynwyd gan Grist, ac nid neb arall. Yr oeddwn yn ystyried hefyd fod pechodau ei bobl yn gyfrifedig ar y Prynwr megis dan rif; a bod y dyoddefaint yn gyfatebol i'r swm, neu y rhif dirfawr hynny. Ac y gallasai y Cyfryngwr mawr fyw yn hwy, a dyoddef ychwaneg ar y groes, pe buasai achos am hynny: Heb ystyried, (mi welaf) fod anfeidroldeb ei berson, yn gosod anfeidroldeb o werth ar ei ddyoddefiadau anrhaethol. Yr wyf o hyd yn barnu, Mai nad marw a wnaeth Iesu, pan y bu farw, am na allasai fyw yn hwy; ond marw a wnaeth am fod y gwaith wedi ei ORPHEN.—Iawn wedi ei wneyd: ac felly nad oedd achos byw yn hwy. Wedi darllen eich Llyfr chwi, yr wyf yn sicr yn gweled yn amlycach nag o'r blaen, mai "oddiar ddwyfoldeb y Person a ddyoddefodd, yr oedd gwerth yr aberth yn tarddu; yn fwy nag oddi ar fawredd a meithder y dyoddefiadau. Y mae sylwiad P. Bains, tu dal. 81, o eich Llyfr, am ddigonoldeb camwedd Adda i gondemnio