byd yn 'chwaneg pe deilliasai o hono, wedi rhoddi i mi foddlonrwydd mawr, a golygiad newydd ar Iawn y Cyfryngwr wrth ei gymharu ef â'r Adda cyntaf.
Maddeuwch i mi, Barchedig Syr, y rhyddid a gymmerais arnoch, i adrodd y pethau uchod yn blentynaidd wrthych. Fy nymuniad yw adnabod a gwybod y gwirionedd megis y mae yn yr Iesu. Ni fynwn i er y byd feddwl, na llefaru, am bethau mawrion Duw, oud mewn cysondeb ag anffaeledig air Duw. Bydded i ei Yspryd ef fy nhywys i bob gwirionedd. Gan i mi fod mor hyf ag ysgrifenu atoch chwi, byddwch chwithau mor dadol ag anfon un llythyr ataf finnau. Y mae'n ddiau y gellwch chwi roddi llawer o gynghorion buddiol i mi, sydd yn bur amddifad yn y fan annghysbell hon.
- "Wyf eich annheilwng,
- "Frawd yn yr Efengyl,
- "Wyf eich annheilwng,
"JAMES HUGHES"
- Deptford, Mai 11eg, 1820.
"O.S. Mi a gyfansoddais bennill rhydd ar brynu'r bendithion, o gylch un mlynedd ar