Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeg yn ol; ac nid ydwyf wedi newid fy marn am hynny etto. Fel hyn y mae,

Nid y nefoedd, na'r bendithion,
Brynodd Iesu ar y groes;
Ond fe brynodd fyrdd o ddynion,
Pan ddyoddefodd angau loes:
Yr oedd e'n ffynon pob bendithion,
Nid oedd achos prynu y rhai'n;
Prynu wnaeth e'r etifeddion,
Pan goronwyd ef a drain. —"J. H."

Rhan o Llythyr oddiwrth gyfaill arall i'r un perwyl.

G——m, Mai 12, 1820.

"ANWYL SYR,
"Yr wyf yn ddiau yn meddwl y bydd yr Athrawiaeth yr ydych yn ei hamddiffyn yn eich "YMDDYDDANION AR BRYNEDIGAETH," yn gymmeradwy, ac amddiffynadwy, gan brif gorph yr Eglwys, yn mhob rhan o'r byd, hyd ddiwedd amser: ïe, ei bod yn Athrawiaeth anhebgorawl o ran anfeidroldeb gwerth Aberth ein hanwyl Arglwydd Iesu Grist. Bydd hefyd gan yr Eglwys yn Nghymru achos diolch i Dduw am yr Eglurhad a'r Amddiffyniad, hwn o'r eiddoch o honi, hyd ddiwedd amser: Ac hefyd achos rhyfeddu, fod yn rhaid