wrth Amddiffyniad iddi! Pwy fuasai yn meddwl bymtheng mlynedd yn ol, y buasai un dyn, tu yma i Ffraingc, yn dychymygu am derfyn i Anfeidroldeb! Yn ddiffuant, yr wyf yn deall fod eich llafur hwn wedi bod eisoes yn fendithiol i amryw. I Dduw y bo'r clod.
- "Y gwaelaf, &c.
"D. J."
Gobeithiwn fod y Llythyrau uchod oddiwrth Gymdeithasfäoedd, ac oddiwrth bersonau neillduol hefyd, yn ddigonol i ddangos, i foddlonrwydd, i bob dyn diduedd, fod Mr. Jones yn Aelod derbyniol, yn Weinidog parchus, ac yn Ysgrifenydd cymmeradwy yn Nghorph y Methodistiaid Calfinaidd hyd ddydd ei farwolaeth: Er i rai oi wrthwynebwŷr ddywedyd yn groes i hynny.—Gallesid dwyn ger bron lawer chwaneg o dystiadau ar y matter; ond rhag blino'n darllenwyr, a chan gwblfarnu fod hyn yn llawn ddigon, nyni a ymattaliwn.