Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai o'r merched yn wylo, a chlywed y. Pregethwr yn dywedyd yn niwedd y bregeth, na's gwyddai efe, yn y dechreu, pa fodd i agoryd ei enau; ond fod yr Arglwydd wedi rhoddi iddo ddrws ymadrodd, ac wedi ei gynnorthwyo i draethu'r gwirionedd: Ond er hyn nid oeddwn yn gwneuthur nemmawr gyfrif o honynt, am nad adwaenwn, y pryd hynny, nemmawr un o'r rhai a'u gwrandawent yn rhodio mewn harddwch a duwioldeb buchedd. Yr oedd gwylltineb natur un neu ddwy yn dramgwydd i fy meddwl.

Fel y cynnyddais mewn oedran, fy llygredigaeth a gryfhäodd, ac a dorrodd allan mewn grym mwy. Mi a ymhyfrydais, fel ereill o'm cyfoedion, mewn pob pleserau gwael a diriaid a'r a allai fy oedran i gyrhaedd; yn enwedig mynnwn ddilyn chwareyddiaethau ar y Sabbath, er cael ceryddon mynych yn fy nghydwybod, ac weithiau ddwrdiad a gwïalen fy nhad hefyd. Un tro, yr wyf yn cofio, wedi ymddïosg i chwarau, daeth y fath ddychryn arnaf, fel y bu raid im' wisgo am danaf, ac ymlithro ymaith yn dra phoenus yn fy meddwl; etto dan gymmeryd arnaf fy mod yn sâl o gorph, er mwyn cael fy esgusodi gan fy nghyfeillion. Bu am-