Thomas Jones fel Dyn, fel Cristion, fel Pregethwr
Bellach ceisiwn ddywedyd ychydig am dano fel Dyn, fel Cristion, fel Pregethwr, &c.
Yr oedd Mr. Jones yn Ysgolhaig da, mewn pedair neu bump o ieithoedd; yn enwedig mewn pedair, sef Cymraeg, Saesoneg, Lladin, a Groeg: fel y gellir gweled yn eglur wrth ei Ysgrifeniadau. Gwyddai efe yr Iaith Hebraeg hefyd; er nad oedd yn gwneuthur cymmaint defnydd o honi ag o'r lleill. Un arwydd neillduol o gryfder cynneddfau, ac athrylith Mr. J. ydyw, ei fod wedi dysgu Gramadeg yr iaith Hebraeg mewn pythefnos o amser, a hynny hefyd pan oedd efe uwch law deugain mlwydd oed. Y mae ysgrifenydd hyn o hanes, o'i wybyddiaeth ei hun, yn gallu ardystiaw. gwirionedd y peth; ei fod wedi gwneuthur hynny. Er ei fod yn ysgolhaig da, yr oedd mor ostyngedig, fel nad oedd nemawr un yn pwyso llai ar ei ddysgeidiaeth, nac yn sôn llai am dano, nag efe; oni byddai rhyw achos neillduol yn galw am hynny.
Yr oedd Mr. Jones fel Gwladwr yn dra chymmeradwy yn ei ardal a'i wlad: Yr oedd ei wybodaeth, ei synwyr, a'i ras, yn peri iddo. dderbyniad parchus yn meddyliau pob dynion