Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

da. Ei ffyddlondeb i'r Brenin a'r Llywodraeth, oedd bob amser, yn goron hardd ar ei ben. Yr ydoedd yn Sylwïedydd, craff a manwl, ar oruchwyliaethau Duw yn nhrefn ei ragluniaeth tu ag at y byd yn gyffredinol, a thu ag at ei wlad ei hun yn neillduol. Er ei fod cystal gwladwriaethwr a nemawr.un yn ei: fro, mor wybyddus yn amgylchiadau achosion ei wlad; pan ddygwyddai rhyw drychineb iddi, nid oedd neb yn llai am feio ar Lywyddión a Chynweision y deyrnas nag efe.. Beth bynag fyddai y dygwyddiadau, byddai efe yn canfod Haw'r Arglwydd heibio i bawb, a phob peth:—mai efe sydd yn teyrnasu.

Yr oedd Mr. Jones yn Fardd. enwog, yn Saesoneg a Chymraeg; ond yn bènaf yn Gymraeg. Y mae yn ei waith prydyddawl yn dangos ei fod yn Sylwïedydd manwlar Ragluniaeth yr Hollalluog. Y mae "Cywydd Trugaredd a Barn;;," a ddechreuodd efe tu a dechreu rhyfel Ffraingc, yn brawf amlwg o hynny. Y mae rhanau o hono eisoes wedi ei argraffu yn y Drysorfa Ysprydol; a rhan fawr o hono heb ei gyhoeddi etto; y'nghyd ag amryw darnau ereill o Farddoniaeth cywrain. Y mae un darn, sef, "Awdl ar Farwolaeth ein