Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diweddar Frenin Sior y Trydydd," a gyfansoddodd efe ychydig cyn ei farwolaeth, yn ddarn o Waith awenyddol a dysgedig. Y mae efe yn yr Awdl hon yn dangos yr yspryd rhagorol, y parch, y cariad, &c. oedd ynddo, yr hyn a weddai fod mewn pob Cristion, tu ag at ei Frenin a'i wlad. Byddai ddywenydd gènym weled yr Awdl hon, gyd ag amryw ddarnau ereill o'i Waith prydyddawl ef, yn cael ymddangos drwy'r argraff-wasg.

Yr oedd Mr. Jones, fel Cyfaill, yn dirion, mwynaidd, a ffyddlon:—Yn hawdd nesu ato, a chyfeillachu âg ef.—Ei gynghorion, pan fyddai achos am danynt, fyddent ddifrifol a synnwyr-lawn: â'u tueddiad at ogoniant Duw, cysur a llwyddiant y dyn.

Tyner iawn hefyd oedd efe at y tlodion; yn hawdd ganddo roddi a chyfranu. Bydd llawer yn teimlo eu colled am ei elusen, cystal ag am ei gynghorion a'i weinidogaeth.

Fel priod, yr oedd efe yn ffyddlon, caredig, a thyner iawn o'i wraig; gan roddi parch iddi, fel y llestr gwanaf, &c. Er nad ydoedd mor fywiog ei dymherau ag ambell un, etto yr oedd ganddo ffordd tra gweddaidd, caruaidd, a chrefyddol, i ddangos ei serch prïodasol.