Fel meistr, a phenteulu, yr ydoedd wedi ei ddysgu gan yr Arglwydd i wybod ei ddyledswydd, a'r rhwymedigaeth oedd arno yn y sefyllfa honno. Nid fel meistr caled, ond fel tad tirion i'w deulu, y byddai efe yn ymddwyn: Gan roddi bwgwth heibio; a chan wybod fod ei Arglwydd ef a hwythau yn y nefoedd.
"Fel pregethwr, yr oedd ei ddull o bregethu yn ysgrythyrol, eglur, a buddiol.—Nid llawer y darfu iddo erioed astudio cywreinrwydd cyfansoddiad yn ei bregethau: oblegid nid cywreinrwydd addurniadol y dull, oedd y peth mwyaf ar ei feddwl syml ef, ond sylweddolrwydd ac ysprydolrwydd y defnydd. Wedi iddo egluro yn fyr y rhan o'r gair a gymmerai efe mewn llaw i lefaru arno, byddai yn treulio y rhan fwyaf, o lawer, o'r amser i gymhwyso, cynghori, a gwasgu y gwirionedd at ei wrandawyr.
O ran ei ddull yn traddodi ei weinidogaeth: Yr oedd ei lais yn eglur a phêrseiniol:—Ei olwg yn dreiddiol, difrifol ac ynnillgar; a'ï agwedd yn sobr a dirodres:—Ië, ei holl ddulliau yn naturiol, syml a gweddaidd. Gallesid darllen yn ei wynebpryd ef, yn y pulpud, fod achos eneidiau dynion yn beth pwysig ar ei