feddwl. Ië, yr ydoedd yn ei holl ymdriniaeth â gwaith mawr yr Arglwydd, fel un yn teimlo ei bwys a'i ysprydolrwydd ac nid fel cellweïriwr gwag..
Tyner a thirion iawn oedd efe yn ei holl ymdriniaeth âg achosion yr eglwys. Pan y byddai rhyw fatter dysgyblaethol, heb fod yn gwbl oleu ac eglur, i gael ei drin, llawer gwaith y clybuwyd ef yn dywedyd, ar y cyfryw achlysuron, "Os bydd i ni gamgymmeryd, gwell i ni gamgymmeryd yn yr ochr mwyaf tyner; bydd yn haws gan yr Arglwydd hefyd faddeu i ni ein camgymmeriad.".
Deuwn yn awr i fwrw golwg ar ein hanwyl gyfaill yn ei ddyddiau a'i glefyd olaf. Noswaith neu ddwy cyn iddo fyned yn glaf i orwedd (ond yr oedd efe yn glaf iawn cyn myned i orwedd) dygwyddodd fod dau neu dri o gyfeillion gyd âg ef yn y Llyfrgell, efe a ddywedai, "Wel gyfeillion, nid hwyrach y'ch bod chwi yn dysgwyl rhyw bethau mawrion genyf fi:—Nid oes gènyf fi ond yr un peth yr awr hon, IESU! ag oedd genyf yn fy ymdriniaeth a'r gwaith; yn ol y llafur bychan oedd genyf—yn pregethu ac yn cadw society, fy nyben oedd ceisio bod o lês i bechaduriaid. Ac am