y pethau a 'sgrifenais, nid wyf yn edifarhau; er fod gènyf achos edifarhâu am fy meiau: Fy amcan i yn y cwbl oedd sefyll dros wirionedd Duw. Ond yn y cwbl y mae ynof lawer o anmherffeithrwydd. Ond nid yn ol fy mhethau goreu i, na fy mhethau gwaethaf, y gwna'r Barnwr." Yna fe wylodd! —Hyn gan un o'r brodyr (E. L—s) oedd yn bresenol.
Oddiar ymddyddan rhyngddo a'r Brawd J. W—s, M—m, ar ol iddo fyned i orwedd, efe adroddodd y llinellau canlynol, gyda phwyslais nid bychan,
"Pan welir gwaith yr Arglwydd ne,'
Fe'i molir E'n dragywydd.".
Y mae Brawd arall (J. R—s) yn adrodd yr hyn a ganlyn, am gyfeillach a fu rhynddo ag ef ychydig cyn iddo ymadael. "Pan aethum gyntaf i'w gyfarch, gwnaeth arwydd ei fod yn llawenhau, ac yn dda iawn ganddo fy nyfod i ymweled âg ef: Ond nis gallai ymddyddan llawer gan lesgrwydd. Yn mhen ychydig gofynodd i mi ddarllen Salm 23. ac annogodd fi i fyned i weddi. Yna, wrth ymddyddan, dywedodd yn hynod o gysurus am y geiriau yn 2 Tim. 1. 12. Miawn i bwy y credais, &c.—Dymunodd ar y rhai oedd yn yr ystafell ganu