mawl, ac adroddodd y geiriau canlynol i'r perwyl,
D'ai i ymofyn haeddiant byth na nerth,
Na ffafr neb na'i hedd;
Ond hwnw yn unig a gwyd fy llwch,
Yn fyw i'r làn o'r bedd.
Gwedi hyn yr oedd megis yn ceisio canu y geiriau hynny,
Yn ymchwydd yr Iorddonen,
Ac yn y farn a ddaw;
Dïangol yn y diwedd,
A fyddaf yn ei law.
Nid oedd yn gallu aros yn effro ond ychydig; gan effeithiau cyfferi meddygol: Ond hyd ag y byddai yn effro, yr oedd yn barod iawn i ymddyddan. Ar ddiwedd yr ymddyddan y tro hwn dywedodd,—"Gweddiwch am i mi gael gras i ddyoddef,—"Ymddarostyngwch dan alluog law Duw, &c." Y mae'n ddigon o ras i mi yn bresennol gael grym i ymostwng, a dyoddef, a chael gweled llaw Duw yn y cwbl; a bod y cwbl yn llaw Tad."—" Wedi iddo fy mhrofi mi a ddeuaf allan fel aur; a bydd hynny yn rhyfedd byth; cael bod yn bur."—Y bore dranoeth, dymunodd arnaf ddarllen pennod, a myned i weddi. Yna adroddodd ei ddiolch-