garwch am ei fod wedi esmwythâu llawer, o ran gofidiau ei gorph.—Wrth ymddyddan am ei waith yn ysgrifenu ar y Prynedigaeth, dywedodd, "Yr wyf fi yn marw mewn heddwch, ac yn hollol o'r un meddwl; ac heb ddim trallod meddwl am ddim o ran matter: ond ei fod yn waith gwael iawn. Ac nid wyf yn matteru llawer pa faint a geblir arnaf gan bleidiau ereill, yn enwedig gan y Bedyddwyr, os bydd yn dderbyniol gan fy mrodyr, &c."
Cyn i mi ymadael, Dymunodd arnaf ei gofio yn garedig at y Brodyr yn Nghymmanfa'r Bala: a'i ddymuniad am i bresennoldeb yr Arglwydd fod yn eu plith:—ac am i ni weddio ar Arglwydd y cynhauaf, anfon gweithwyr i'w gynhauaf: Ac am i'r Arglwydd gyfodi rhai ag y byddai iddo Ef eu harddel mewn modd neillduol; er mwyn dal i fynu achos mawr Duw. Dangosodd fod achos yr Arglwydd yn fawr ar ei feddwl, a'i gariad ato yn fawr iawn, &c."—Aml y dywedai, "Gwyliwch i'r achos mawr fyned i lawr gènych.—Ymrowch i weddio, &c.—Rhodiwch mewn cariad, a gostyugeiddrwydd:—Ymdrechwch i fod yn fuddiol yn mhob lle, a chyd â phob rhan o'r Gwaith; ac yn fwy-fwy manwl am Athrawiaeth a Dysg-