yblaeth."—Yn mhen ychydig adroddodd y llinellau canlynol,
"Pan ballo ffafr pawb a'i hedd,
Duw o'i drugaredd odiaeth;
Yn dad, yn frawd, yn ffrind a fydd,
Ar gyfyng ddydd marwolaeth."
Yna eb efe, "Y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner. O fy Nhad, gollwng fi mewn tanguefedd yn ol dy air. Byr ysgafn gystudd sydd odidog ragorol.—Pallodd fy nghawd a'm calon, ond y mae genyf obaith, mai nerth fy nghalon a'm rhan yw Duw yn dragywydd. Wrth fesur pan el allan—y mae'n attal ei wynt garw yn nydd y dwyrein—wynt. Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw."—Allef uchel y dywedodd, "O angau pa le mae dy golyn?
I Dduw y bo'r diolch, am roddi'r fuddugoliaeth i'r fath bryfyn mor wael."—Pan oedd yn dra, phoenus, efe a ddywedai, "Y mae fy mhechod i yn haeddu can mil miliwn, mwy na hyn—os edrychi di yn dirion arnaf, pob peth yn dda,—O, fy Ebenezer, hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd fi."
Ar nos Sadwrn, gofynodd beth oedd hi ar gloch? Atebwyd iddo ei bod yn ddeuddeg: dywedai yntau yn Saesoneg, "Shall I, a poor