Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sinner, commence an eternal Sabbath?"—" Y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. wyf fi yn marw mewn tangnefedd:—A'th dangnefedd a fyddo ar dy eglwys."

Ar un pryd efe a dorrodd allan fel hyn, "O Arglwydd, yr wyt ti yn rhoi pob ymgeledd i mi yma ar dy ddaear." Wrth edrych ar ei wraig yn ŵylo, dywedodd, "Y mae digon yn dy 'stêr di i fy ngwraig, a'm perthynasau, a'm cyfeillion, a'm caredigion: ïe, a'm gelynion.—Tynodd ei ddwylaw allan o'r gwely, a chan eu curo y'nghŷd, ac mewn llais gorfoledd dywedodd, Diolch, O diolch; fod digon yn dy 'stôr di."—Wrth un fe ddywedodd fel hyn, "This is a rough passage; but the end of it is everlasting glory."—Trachefn, "Yn dy drugaredd, yr hon sydd well na'r bywyd, ymgeledda fi, O Arglwydd—doeth a da wyt ti, a minnau yn annoeth a ffol.—Yr wyf yn hyderu na fwrw'r Arglwydd mo honof ymaith—da fu E, da ydyw Efe, a da fydd E byth, i mi bechadur." "Cerbyd go anesmwyth ydyw'r [1]Ig (hiccup,) ond er hynny efe a'm caria i dragywyddol law-

  1. Ei glefyd, o'r hwn y bu efe farw, a eilw'r meddygon Gall Stone, ac yr oedd yr Ig (hiccup) yn ei ganlyn; a hynny yn drwm iawn