ryw beryglon a'm cyfarfuant, a gwaredigaethau a gefais, yn foddion mewn rhyw radd i chwanegu ynof ystyriaeth am fy nghyflwr. Y rhai y deliais fwyaf o sylw arnynt yw'r rhai a ganlyn.—Yr oedd ynof arswyd mawr rhag nadroedd; ond heb weled un, hyd pan oeddwn y'nghylch un ar ddeg oed. Ar ganolddydd, wrth chwilio am bêl a gollasid ar ein chware, clywn sŵn chwythiad dan fy nhroed: edrychais, a gwelwn ran o'r neidr oedd yn gorwedd yn dorchog; ond heb allu i'm niweidio, am fod fy nhroed ar ei phen a'i chynffon. Llemmais ymaith mewn dychryn; a'm cyfeillion, oedd hynach nâ mi, a'i lladdasant.—Dro arall, wedi codi seldrem o ŷd ar y maes, gwelwn neidr, oedd yn gorwedd dani, yn ymlusgo ymaith.—Drachefn, wedi tynnu mefusen oddi ar ochr clawdd, gwelwn fy mod wedi rhoi fy llaw o fewn torch neidr frêch fawr oedd yn gorwedd yno.—Dro arall, pan oeddwn yn Ysgol Treffynnon, wedi blino yn chwarau, ar ganolddydd gwresog, gorweddais ar lechwedd serth sy yn ochr ddwyreiniol y fynwent honno, gan feddwl hepian yno: ond, cyn i gwsg fy llwyr-ddal, clywn rywbeth yn ymgynhyrfu dan fy mhen; yn cyffwrdd â'm gwallt, ac a'm clust. Erbyn codi fy mhen, a'i
Tudalen:Cofiant, neu Hanes bywyd a marwolaeth y Parch. Thomas Jones, Dinbych.djvu/12
Gwedd