enydd." Llawer iawn o ymadroddion cysurus, oedd yn disgyn dros ei wefusau tra fu yn ei glefyd olaf, y rhai a ddangosant fod ynddo hyder fywiol, a gobaith cryf yn yr Arglwydd Iesu: a'i fod yn mwynhau graddau helaeth o orfoledd yr iechydwriaeth. Rhy faith fyddai i ni adrodd yr hanner. Ond gobeithio yr ydym, y goddef amynedd ein darllenwyr i ni adrodd ychydig yn rhagor.
Un pryd pan ddeffrodd o'i gwsg, adroddodd y darn pennill canlynol a gyfansoddasai efe drwy hûn,
Some find the Lord on Christian ground,
May I among them all be found."
Wrth y rhai oedd yn sefyll wrth y gwely. dywedodd, "Peidiwch a digaloni, gwell gènyf fi farw na pheidio—mi gaf ei weled ef fel ag y mae; a bod yn debyg iddo."—Aml waith yr adroddodd y pennill canlynol, mewn agwedd hyderus a siriol.
"Mi welaf draw dros fryniau pell,
Dragywyddol babell Iesu;
A'r hyfryd wlad yr hon gaf fi,
Y'mhen ennyd ei meddiannu."
Tan guro ei ddwylaw, dywedai,
"Rho oleuni lhwylia'm henaid,
Dros y cefnfor garw draw."